|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
|
|
|
|
|||
|
|
![]() |
![]() |
|
|
||
|
|
|
|
||||
|
|
Bûm yn actor llwyfan a theledu am ddeugain mlynedd hyd mis Hydref, 2006 (pan ymddeolais o’m gyrfa fel actor); rydw i hefyd yn awdur cyhoeddedig ac yn ddramodydd a sgriptiwr dramâu radio a theledu, yn ogystal a bod yn gyfarwyddwr. Hoffwn barhau gyda’r sgwennu – os caf fyth hamdden i wneud hynny. (Ysgrifennais JENNIE, er engraifft, drama-ddogfen ar fywyd y diweddar Jennie Eirian Davies yn ystod fy ngwyliau haf o’r coleg ym 2007; dyna’r hamdden d’wetha’ imi gael!) Yn ogystal, ysgrifennais y ffilm PORC PEI a ddyfarnwyd y ffilm orau yng Ngðyl Ffilm Rhyngwladol Vürzburg yn yr Almaen, 1998 – ac a ddatblygodd yn gyfres hynod lwyddiannus a phoblogaidd, PORC PEIS BACH, ar S4C. Croniclais hefyd hunllef yr alcoholig yn fy nrama lwyfan a radio, GWIN COCH A FODCA, berfformwyd gyntaf gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, 1998. Ac arnaf fi, fel crëwr a chyd-sgriptiwyr y cyfresi cwlt i blant dan gant, mae’r bai am TELIFFANT AC ANTURIAETHAU SYR WYNFF A PLWMSAN – rhaglenni sydd wedi dylanwadu’n gryf ar genedlaethau o blant Cymru – er gwell gobeithio! Mae i’m perfformiadau llwyfan ystod eang iawn: o Fferi Nyff, y dylwythen anheg ym mhantomeimiau cynnar Cwmni Theatr Cymru, i Antonio Salieri yng nghynhyrchiad arobryn olaf Graham Laker i Theatr Gwynedd o drosiad Ken Owen o ddrama Peter Shaffer, AMADEUS; a’r Parch Donald Parry, y tad echreiddig, yn O DIAR! – SIOE LWYFAN PORC PEIS BACH berfformiwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cylch 2005; a rhan Yr Actor Cyntaf a Foltemand yn nhrosiad Gareth Miles o HAMLET gan William Shakespeare i’r Wales Theatre Company, 2005. Addysgwyd fi yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes ac wedyn yng Ngholeg Addysg Cyncoed, Caerdydd (lle enillais statws athro trwyddedig) a Choleg Cerdd a Drama, Cymru cyn imi ymuno ag adran gynhyrchu’r BBC ym 1969. Un o’r cynharaf o fyd y cyfryngau i fod yn hunangyflogedig (gadewais y BBC ym 1971 wedi derbyn ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i’m cymhwyso’n gyfarwyddwr theatr); bûm yn gadeirydd ar fy undeb yng Nghymru (Equity); ac rydw i’n parhau i fod yn aelod o’r Academi Gymreig; yn noddwr i’r ganolfan driniaeth i alcoholigion yn Rhoserchan; ac yn gyn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr y Wales Theatre Company, a bwrdd ymddiriedolwyr (ac un o sylfaenwyr) Y Theatr Genedlaethol. Dychwelais i’r coleg ym 2006 i astudio cwrs gradd FD.Sc i’m galluogi i gynghori rhai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau eraill. Graddiais yr haf hwnnw ac wedyn gweithio fel cynhorwr yn Rhoserchan, y ganolfan driniaeth uwchlaw Penrhyncoch, ger Aberystwyth. Penodwyd fi yn Brif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ym mis Hydref, 2008. Treuliais fy nyddiau cynnar yn Llansannan yn yr hen Sir Ddinbych, a rhelyw fy mhlentyndod yn Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon, ble ‘roedd fy Nhad, Robert Owen, yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Rydw i’n frawd bach i Rowenna Thomas ac arferwn gydweithio’n rheolaidd gyda’m brawd mawr, Arwel Ellis Owen – fu’n cynhyrchu fy nghynnyrch teledu a radio, gan mai ef yw pennaeth y cwmni cynhyrchu, Cambrensis. Yn briod â Meira, arwres fy hunangofiant RASLAS BACH A MAWR! rydw i wedi’m breintio â dwy ferch, Bethan a Rwth, un yn actores a’r llall yn feddyg. Rydw i hefyd yn daid balch iawn i Begw Non ac Efa Grug; ac rwy’n byw ym mhentref Creigiau ger Gaerdydd. |
|||||
|
|
||||||
|
|
||||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|||||