Click here for the Welsh version of the site
wynford ellis owen title
Click here to learn about me
Click here to learn about my theatre work
Click here to learn about my written work
Click here to learn about my radio work
Click her to learn about my television work
Click her to buy online
Click here to learn about my latest projects
Click here to contact me
welcome header Image of Wynford Ellis Owen

Dychwelais i’r coleg ym 2006 i astudio cwrs gradd FD.Sc i’m galluogi i gynghori rhai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau eraill. Graddiais ym 2008 ac wedyn bûm yn gweithio fel cynhorwr yn Rhoserchan, y ganolfan driniaeth uwchlaw Penrhyncoch, ger Aberystwyth. Penodwyd fi yn Brif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ar y 1af o Hydref, 2008. Yn 2010 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Winston Churchill i mi a byddaf teithio i UDA ym mis Medi, Hydref a Thachwedd ac yn ymweld â chanolfannau  triniaeth yn Vermont, Connecticut, Philadelphia a Washington D.C.

Gweledigaeth bersonol
Rwy’n teimlo bod fy ngyrfa a’m profiadau hyn yma wedi bod yn baratoad ar gyfer y swydd hon. Mae’r cymwysterau personol gen i i gyd ac mae prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau y swydd yn hwylus o fewn fy nghyrraedd. Am fwy o fanylion am Strategaeth 3 blynedd y Cyngor ewch i www.cyngorcymru.org.uk

Yn bwysicach na dim, byddaf ar gael i ddod i siarad am waith y Cyngor i eglwysi a chapeli Cymru, i ysgolion ac i grwpiau ieuenctid. I hwyluso’r broses hon, ac i’m galluogi i gario’r neges i’r niferoedd mwyaf posib, erfyniaf arnoch i drefnu ar y cyd gydag eglwysi/ysgolion/grwpiau/cymdeithasau eraill yn eich pentref, dref neu ddinas fel bod cynulleidfa deilwng ar gyfer y cyfarfodydd hyn.

Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ‘Yn hyrwyddo Dewis a Byw Bywyd Cyfrifol’.

Gellir cysylltu â’r Cyngor drwy ffonio 029 2025 70 75, neu ffacsio ar 029 2025 70 57, neu drwy e-bost: info@welshcouncil.org.uk;  a thrwy lythyr at Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, 58 Ffordd Richmond, Caerdydd, CF24 3AT.