Click here for the Welsh version of the site
wynford ellis owen title
Click here to learn about me
Click here to learn about my theatre work
Click here to learn about my written work
Click here to learn about my radio work
Click her to learn about my television work
Click her to buy online
Click here to learn about my latest projects
Click here to contact me
welcome header Image of Wynford Ellis Owen
1966 Cael fy nerbyn i astudio drama yng ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

1970 Dyfarnwyd imi ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i’m hyfforddi’n gyfarwyddwr theatre. Hyfforddwyd fi gan Philip Headley yn y Midlands Arts Centre, Cannon Hill Park, Birmingham, ac yna gan Jane Howel yn y Northcott Theatre, Exeter.

1971 Cyfarwyddo’r ddrama gomisiwn, ‘Rhyfedd y’n Gwnaed’ gan John Gwilym Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a’r Cyffiniau. Yna teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru.
Image of the first Welsh Pantomime 1972 (chwith) Cyfarwyddo ac actio yn y pantomeim Cymraeg proffesiynol cyntaf, ‘Mawredd Mawr!’, ac actio yn y ddau ddilynol: ‘Dan y Don’ a ‘Gweld Sêr’ i Gwmni Theatr Cymru. Cynhyrchydd: Wilbert Lloyd Roberts. Cyfarwyddwyr: Lyn T. Jones, Wynford Ellis Owen a Gray Evans. Creëais y cymeriad Fferi Nyff ar gyfer y cynyrchiadau hyn.

1973 Sefydlu Y Theatr Ifanc a’u cyfarwyddo yn y ‘Y Rhai a Lwydda’ gan Bernard Evans i Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd drwy Gwmni Theatr Cymru. Yna teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru.

Bu’r fenter yn llwyddiant digamsyniol. Dewisodd y mwyafrif llethol o’r actorion ifanc aros ymlaen a gwneud gyrfa ohoni yn y proffesiwn. Yn eu plith roedd Mei Jones, John Pierce Jones, Gwen Elis, Malcolm (Slim) Williams, Ian Saynor, Elliw Haf, Siôn Eirian, Dilwyn Young Jones, Osian Wyn Jones, Emyr Glasnant, Iona Jones ac Euros Lewis, heb sôn am yr ychydig fel Wynfford James, Selwyn Jones a Nic Parry aeth ymlaen i feysydd eraill, a’r criw technegol, wrth gwrs.’ Raslas bach a Mawr! WEO cyhoeddwyd 2004 gan Gomer.
1973 Cyfarwyddo ‘Harris’ gan Islwyn Ffowc Elis i Gwmni Theatr Cymru, a theithio’r cynhyrchiad led-led Cymru.
1974 Cynhyrchu a chyfarwyddo’r opera roc‘Nia Ben Aur’ i Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin a’r Cylch drwy Gwmni Theatr Cymru.

‘….Mae’r  cynhyrchiad hwnnw o ‘Nia Ben Aur’ wedi aros yn ymwybyddiaeth y Cymry. Dros y blynyddoedd mae’r cynhyrchiad wedi magu statws cwlt, gyda’r rhai oedd yn y pafiliwn y noson honno’n teimlo eu bod yn rhan o ryw ddigwyddiad pwysig, hanesyddol. Ac mi oedd. Dyma’r trobwynt ym myd adloniant ysgafn i’r ifanc. Symudodd yr holl fusnes, wedi hynny, o dir amaturiaeth i fyd proffesiynoldeb……..Roedd yma arf ychwanegol, cryf i’r ddadl gynyddol am sianel Gymraeg i Gymru.’ Raslas bach a Mawr! WEO cyhoeddwyd 2004 gan Gomer.

Ond bu peth beirniadu arnaf oherwydd diffyg ar y sain a gor-wariant bychan ar y cyllid. Ni chyfarwyddais rhyw lawer wedyn, collais fy hunan-hyder.

1975 Cynhyrchu a chyfarwyddo’r rifiw ‘Jiwbili Jiwbilant, Agent Eithriadol a Dienyddwr Swyddogol yr Hen Gorff’ gan Dafydd Glyn Jones, Bruce Griffiths, Geraint Jarman a WEO i Eisteddfod Genedlaethol Rhuthin a’r Cyffiniau.

Yn ystod y saithdegau, gweithiais ar lawer o gynyrchiadau i blant ac ysgolion drwy Gwmni Theatr Cymru. Yn eu mysg: actio yn ‘Hwyl Idris’ gyfarwyddwyd gan Gruffudd Jones; a chyfarwyddo ac action yn ‘Dafydd y Glo’.

1978 Cyfarwyddo ‘Gymerwch chi Sigaret?’ gan Saunders Lewis i Theatr yr Ymylon, a theithio’r cynhyrchiad led-led Cymru.
1991 Actio rhan Ifans yn ‘Saer Doliau’ gan Gwenlyn Parry i Gwmni Theatr Arad Goch, a theithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. (Perfformiwyd y ddrama hon i ddathlu gwaith a bywyd y dramodydd, Gwenlyn Parry, fu farw’r flwyddyn honno.)

1992 (dde) Actio rhan Dick Sark yn ‘Excelsior’ gan Saunders Lewis i Gwmni Theatr Gwynedd, a theithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwr: Graham Laker.

1994 Actio a chanu rhan Abram i Theatr Gorllewin Morgannwg yn eu cynhyrchiad o ‘Combrogos’ gan Tim Baker a Manon Eames i Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd a’r Cyffiniau. Cyfarwyddwr: Tim Baker.

Image of Excelsior
1995 Portreadu’r Asiant yn nrama Ian Rowlands ‘Love in Plastic’ i Theatr y Byd yng Ngðyl Lenyddol Abertawe.
Playing Shinc 1995 (chwith) Actio rhan Shinc ac Ifan yn addasiad Valmai Jones a Gruffudd Jones o’r nofel ‘William Jones’ gan T. Rowland Hughes i Gwmni Theatr Gwynedd – yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yna, teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwrr: Graham Laker

1995 Chwarae rhan Efnisien yn y pantomeim, ‘BRANWEN’, gan Eiry Palfrey a Sue Roderick i Gwmni Mega, a theithio’r cynhyrchiad. Cyfarwyddwr: Dafydd Hywel.

1996 Cymryd rhan yng ngweithdy Dalier Sylw ar ‘SIWAN’ gan Saunders Lewis a ‘VIEW FROM THE BRIDGE’ gan Arthur Miller gyda’r actores Eiry Thomas. Cyfarwyddwr: Morfudd Hughes.
1996 Chwarae rhan Alun yn ffars Iwan Edgar ‘TUA’R TERFYN’ i Gwmni Theatr Gwynedd. Yna, teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwr: Graham Laker.
1996/7 Actio rhan y Barwn Barfddu yn y pantomeim ‘ROBIN CROESO’ gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn i Gwmni Mega. Yna, teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwr: Dafydd Hywel.
1997 (dde) Dyfarnwyd nawdd i Morfudd Hughes a minnau gan Gyngor Celfyddydau Cymru i lwyfannu cynhyrchiad newydd o ‘SIWAN’ gan Saunders Lewis i’n cwmni newydd, Theatr y Dyfodol. Actio rhan Llywelyn, a theithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwr: Morfudd Hughes.

1997 Chwarae rhan Y Barwn yn ffars Emlyn Gomer ac Arwel Roberts ‘Y BARWN, Y BANDIT A’R BOI BANANAS’ yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala a’r Cyffiniau drwy Gwmni Theatr Gwynedd. Cyfarwyddwr: Graham Laker.

1997 Atgyfodi rhan Fferi Nyff o’r pantomeimiau cynnar fel teyrnged i’r diweddar Wilbert Lloyd Roberts yn Theatr Gwynedd, ac yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala a’r Cyffiniau. Y script a’r cyfarwyddo gan Valmai Jones.

Llywelyn
1998 Actio rhan Tom yng nghynhyrchiad Theatr Gorllewin Morgannwg o ‘SKYLIGHT’ Trosiad John Owen. Yna, teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru. Cyfarwyddwr: Geinor Jones.
Salieri 2000/1 (chwith) Chwarae rhan Antonio Salieri yn nrama Peter Shaffer ‘AMADEUS’, trosiad Ken Owen i Gwmni Theatr Gwynedd. Perfformiwyd y ddrama ym 2000 ac yna, oherwydd ei llwyddiant, ail berfformwyd hi yng Ngwanwyn 2001. Cyfarwyddwr (ei gynhyrchiad olaf a mwyaf llwyddiannus): Graham Laker.

2002-3 Sefydlu TRAWS CYMRU gyda Michael Bogdanoff a Valmai Jones er mwyn llwyfannu trosiad o HAMLET gan William Shakespeare yn y Gymraeg. Comisiynodd y Cwmni drosiad newydd gan Gareth Miles oedd yn sylfaen i gynhyrchiad cenedlaethol yn y ddwy iaith gan y ‘Wales Theatre Company’ ym 2005.
2004 – Hydref. Actio rhan y Tad Lorens yn ROMEO & JULIET i Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwr: Cefin Roberts.

2005 – Chwefror. (dde) Chwarae rhan Professor Rupert V Campbell i Theatr Genedlaethol Cymru yn ffars Gwyneth Glyn PLAS DRYCIN. Cyfarwyddwr Vamai Jones. Yna, teithio’r cynhyrchiad led-led Cymru.

2005 –Gorffennaf/Awst. Chwarae rhan Y Parchedig Donald Parry yn O DIAR! (SIOE LWYFAN PORC PEIS BACH) gan W. E. Owen, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Cwmni Teledu Cambrensis, Theatr Bara Caws a Theatr Gwynedd. Llwyfannwyd y cynhyrchiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cylch yn Theatr Gwynedd – a bu’n rhaid ychwanegu dau fatinee oherwydd ei phoblogrwydd. Cyfarwyddwr: Valmai Jones.


Prof Campbell

2005 – Medi-Tachwedd. Cynorthwyo gyda’r cyfarwyddo, ac actio rhan y Player King yng nghynhyrchiad Michael Bogdanov o HAMLET gan William Shakespeare – yn y Saesneg gwreiddiol ac hefyd mewn trosiad Cymraeg newydd gan Gareth Miles a Michael Bogdanov. Teithio’r ddwy ddrama led-led Cymru. Enillodd y cynhyrchiad hwn y wobr am Gynhyrchiad Cymraeg gorau 2005 gan Y Theatr in Wales Web-Site. www.theatreinwales.com