 |
1972-79 (chwith) Creu ac ysgrifennais (ar y cyd â Mici Plwm) y gyfres gwlt ‘Teliffant’ i blant o bob oed i BBC Cymru. Ysgrifennais 20 rhaglen y flwyddyn am 8 mlynedd. Cynhyrchwyr: Meredydd Evans, Jack Williams, Ruth Price, David Richards, Bryn Richards and Rhydderch Jones.
1979 Sgwennu tair ffilm fer i Fwrdd Ffilmiau Cymru: Garej Syr Wynff’, ‘Crochendy Syr Wynff’, and ‘Teliffant’. Cynhyrchydd: Gwilym Owen. Cyfarwyddwr: Emlyn Williams. |
|
1980-89 (dde) Creu ac ysgrifennu’r gyfres (ar y cyd â Mici Plwm) ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan i S4C drwy Burum a Ffilmiau Llifon. Cynhyrchwyr: Dafydd Meirion/Wynford Ellis Owen a Gareth Lloyd Williams. Cyfarwyddwyr: Graham Edgar, Gareth Lloyd Williams. Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu hail-ddangos yn rheolaidd ar S4C.
1982-83 Sgriptio’r gyfres deledu ‘Ond o ddifri’ Madam Sera!’ i S4C drwy Burum. Cynhyrchydd: Dafydd Meirion. Cyfarwyddwr: Wynford Ellis Owen.
1984 Golygydd sgript cynorthwyol ar gytundeb i adran ddrama’r BBC yng Nghaerdydd. Gweithiais gyda Gwenlyn Parry. |

|
|
1984 Ennill y fedal lenyddiaeth yn eisteddfod Caernarfon am ddrama yn ymwneud â rhywun yn gaeth i gyffuriau, ‘Llef un yn llefain’. Y beirniad oedd y dramodydd John Gwilym Jones. |
1986 Ysgrifennu (ar y cyd â Mici Plwm) sioe Nadolig arbennig i S4C ‘Grym Ewyllys’, drwy Ffilmiau Llifon. Cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan Gareth Lloyd Williams. |
1987 Cyd ysgrifennu’r gyfres deledu ‘Siarabang’ i S4C drwy Ffilmiau’r Nant. Cynhyrchydd; Robin Evans. Cyfarwyddwyr: Robin Evans, Wil Aaron. |
| 1987 Ysgrifennu ‘Sôn am Siarabang’ – yn cynnwys detholiadau o’r gyfres Haf – i S4C drwy Ffilmiau’r Nant. Cynhyrchydd/cyfarwyddwr: Robin Evans. |
1993-94 Cyd-ysgrifennu gyda John Pierce Jones y gomedi-antur newydd i deledu, ‘Watcyn a Sgrwmp’ Comisiynydd: Meirion Davies. Ni chyrhaeddodd y prosiect hwn y broses gynhyrchu. |
1994 Cyd-ysgrifennu gyda John Pierce Jones gyfres o 6 rhaglen gomedi i BBC Radio Cymru, ‘Yr Aelod’. Cynhyrchydd: Aled P. Jones. |
1997 Sgriptio’r ddrama ddogfen ‘Ddoe yn ôl’ am fywyd Sir Charles Evans: ‘Canllath o gopa’r Mynydd’ i Cambrensis Communications. Cynhyrchydd: Arwel Ellis Owen. Cyfarwyddwr: Paul Turner. |
1997 Cyd-ysgrifennu ail gyfres ‘Yr Aelod’ i BBC Radio Cymru – comedi mewn chwe phennod. Cynhyrchydd: Aled P. Jones. |
 |
1997 (chwith) Comisiynwyd fi gan S4C i ysgrifennu’r ffilm Nadolig, ‘Porc Pei’. Enillodd y ffilm hon y brif wobr yng Nghwyl Ffilm Rhyngwladol Würzburg yn yr Almaen. Enwebwyd hi hefyd am 8 gwobr BAFTA gan gynnwys category ‘yr awdur gorau’. Cynhyrchydd: Shân Davies. Cyfarwyddwr: Paul Turner. Cynhyrchiad Cambrensis i S4C.
1997-98 Sgriptio cymeriad cartðn newydd i S4C ‘Bybz’. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar ddiwrnod Nadolig 1998. (Enwebwyd hi’n ddiweddarach ar gyfer gwobr BAFTA UK) Cynhyrchydd/cyfarwyddwr: Hywel Griffith o Griffilms Cyf. |
|
1998 Derbyn comisiwn i ysgrifennu’r ddrama lwyfan ‘Gwin Coch a Fodca’ i Theatr Powys. Perfformiwyd y ddrama am alcoholiaeth yn eisteddfod genedlaethol Penybont; teithiodd Gymru wedyn yn Hydref/Tachwedd 1998. |
1998 Derbyn comisiwn i ysgrifennu’r ffilm ‘The Trip To Montenotte’. Comisiynydd: Angharad Jones. (Nid yw’r prosiect hwn wedi gweld golau dydd eto.) |
1998 Comisiynwyd fi i addasu ‘Gwin Coch a Fodca’ ar gyfer y radio i BBC Radio Cymru. Cynhyrchydd/cyfarwyddwr: Aled P. Jones. |
1999 Ysgrifennu cyfres o 8 rhaglen hanner awr ‘Porc Peis Bach’ i S4C drwy Cambrensis. Cynhyrchydd: Ian Eryri. Cyfarwyddwr: Hugh Thomas. (Enwebwyd fi am wobr BAFTA ‘yr awdur gorau’ am y gyfres hon.) |
2000 Ysgrifennais lyfr wedi’i seilio ar y gyfres gyntaf o Porc Peis Bach. Cyhoeddwyd y llyfr gan Hughes a’i Fab ym Mai 2000. |
2000 (dde) Ysgrifennu’r ail gyfres o ‘Porc Peis Bach’. Cynhyrchydd: Ian Eryri. Cyfarwyddwr: Gareth Lloyd Williams. Cynhyrchiad Cambrensis i S4C. (Enwebwyd fi am yr ail flwyddyn yn olynol am wobr BAFTA.)
2001 Ysgrifennu’r drydedd gyfres o Porc Peis Bach. Cynhyrchydd: Ian Eryri. Cyfarwyddwr: Hugh Thomas. Yn ogystal ysgrifennais ffilm yn seiliedig ar y gyfres, ‘Y Grisial Werdd’ – na chyrhaeddodd y broses gynhyrchu. Comisiynwyd cyfres arall ar gyfer y flwyddyn ddilynol (cyfres 4). Mae Porc Peis Bach yn gynhyrchiad gan Cambrensis i S4C. |

|
|
 |
2002-4 Ysgrifennu fy hunangofiant, Raslas Bach a Mawr! i wasg Gomer (Cyhoeddwyd Tachwedd 2004 ISBN 1 84323 362 2.) Comisiynwyd fi hefyd i ysgrifennu y bumed a’r chweched gyfres o Porc Peis Bach; a chyfres gomedi newydd AFALLON WAY (8 x 30 munud) gyda Bethan Ellis Owen. Nid yw’r gyfres hon wedi cyrraedd y broses gynhyrchu. www.gomer.co.uk
2005 Ysgrifennu’r sioe lwyfan, O DIAR! (Sioe Lwyfan Porc Peis Bach) cynhyrchiad ar y cyd gyda Cambrensis Communications, Theatr Bara Caws a Theatr Gwynedd lwyfannwyd yn Theatr Gwynedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r cylch, 2005. Ychwanegwyd dau berfformiad matinee cymaint oedd y galw am docynnau. Cyfarwyddwr: Valmai Jones. |
|
2005 Wedi dechrau cyfrannu’n rheolaidd fel colofnydd (deufisol) i bapur wythnosol yr Annibynnwyr, Y Tyst. Bu’n rhaid rhoi’r gorau i hyn pan ddychwelais i’r coleg.
2006 Ysgrifennu cyfres gomedi 8 pennod hanner awr ‘Rhacsun Sam Snape!’ i BBC Radio Cymru drwy gwmni Cambensis. Darlledwyd y gyfres yn nhymor yr Hydref 2006.
2007 Ysgrifennu JENNIE – drama-ddogfen ar fywyd y diweddar Jennie Eirian Davies i Cambrensis ac S4C. Cynhyrchydd: Arwel Ellis Owen. Cyfarwyddwr: Rhys Powys.
|